lastdays welsh

Uploaded from authorPOINT
Views:
 
     
 

Presentation Description

No description available.

Comments

Presentation Transcript

Diwrnodau olaf yr Iesu: 

Diwrnodau olaf yr Iesu

Iesu’n mynd mewn i Jeriwsalem: 

Iesu’n mynd mewn i Jeriwsalem Roedd Iesu wedi myned i Jeriwsalem ar gefn asyn i ddangos taw un o’r bobl ydoedd, dim Brenin ar geffyl ond dyn syml ar asyn. Fe ddanfonodd ei ddisgyblion i gael hyd iddo ac fe’i cafwyd yn union lle dywedodd y byddai.

Sul y blodau: 

Sul y blodau Wrth i’r Iesu farchogaeth heibio i’r bobl yn y dyrfa, roeddynt yn chwifio canghennau palmwydd tuag ato ac yn eu gosod ger ei draed. Rydym yn galw y diwrnod yma yn 'Sul y blodau.'

Ogof Lladron: 

Ogof Lladron Aeth Iesu i mewn i’r Deml a gweld pobl yn prynnu a gwerthu nwyddau yn dwyllodrus. Gwrth droiodd y byrddau gan weiddi 'Dyma dŷ fy Nuw ond gwnaethoch chwi ef yn ogof lladron.'

Y Swper Olaf: 

Y Swper Olaf

Geiriau’r Iesu: 

Geiriau’r Iesu Eisteddodd Iesu gyda’i ddisgyblion yn yr Oruwch ystafell gan ddathlu y swper olaf gyda nhw. Fe gyhoeddodd mai 'ei gorff' oedd y bara ac 'ei waed' oedd y gwin. Dywedodd wrth y lleill y basai un ohonynt yn ei wadu 3 gwaith a basai un ohonynt yn ei fradychu gyda cusan.

Gardd Gethsemane: 

Gardd Gethsemane Aeth Iesu i weddio yng ngardd Gethsemane. Gofynnodd i’w Dad, 'Pam yr wyt ti’n gwneud hyn i mi?' Wedyn cusannodd Jwdas yr Iesu ac fe gafodd ei arestio gan y milwyr.

Ar brawf: 

Ar brawf Daethant â’r Iesu o flaen Pilat a ddywedodd ei fod yn golchi ei ddwylo o’r mater ac yn gadael i’r bobl benderfynnu. Roedd y dyrfa wedi pleidleisio i Barabas – lleidr – fynd yn rhydd a dedfrydu Iesu i farwolaeth.

Slide9: 

Gorfodwyd yr Iesu i gario ei groes ei hun i galfari. Cerddodd ar hyd y ‘Via Dolorosa’ ar ôl stopio sawl gwaith. Cynnigodd rhai pobl i’w helpu ond fe stopiodd y milwyr Rhufeinig nhw. Roeddynt eisiau gweld yr Iesu yn dioddef achos ei honiad taw Fe oedd Brenin yr Iddewon.

Ar y Groes: 

Ar y Groes Cafodd Iesu ei hoelio i’r groes trwy ei arddyrnau a’i draed. Gwisgodd Goron ddrain ar ei ben a wnaeth iddo waedu. Casglodd y bobl o gwmpas. Cafodd ei groeshoelio gyda dau leidr.

Mae’r Diwedd yn Agos: 

Mae’r Diwedd yn Agos Fe drywanodd milwr Rhufeinig yr Iesu yn ei ochr a phan ofynnodd am ddŵr, fe gafodd sbwng wedi ei ymdrochi mewn finegar. Gwnaeth hyn ef yn fwy sychedus ac roedd yn beth creulon I wneud.

Dydd Gwener y Groglith: 

Dydd Gwener y Groglith Ar unwaith fe droiodd yr awyr yn ddu ac roedd pawb yn gwybod bod Iesu wedi marw. Troiodd Un milwr Rhufeinig at ei ffrind a dweud, 'Hwn oedd mab Duw'. Roedd nawr yn credu. Cymerwyd yr Iesu i lawr o’r groes a’i gario i ogof o fedd dinesydd cyfoethog a gredai yn Iesu, mab Duw.

At yr Ogof: 

At yr Ogof Cafodd yr Iesu ei rwymo mewn dillad-claddu a’i eneinio â pheraroglau fel ‘sandalwood’. Gosodwyd ei gorff wedyn mewn bedd. Roedd y bedd wedi ei orchuddio â maen trwchus a gafodd ei dreiglo dros y fynedfa.

Slide14: 

Ar y dydd Sul ar ôl marwolaeth yr Iesu, aeth ei fam i lawr i’r bedd ond cafodd y maen wedi ei symud a doedd y corff ddim yno. Pengliniodd Mair ac wylo. Clywodd lais tu ôl iddi’n gofyn beth oedd yn bod… Atgyfodiad

Mae’r Iesu yn Fyw: 

Mae’r Iesu yn Fyw …Iesu oedd yn siarad gyda Mair. Roedd wedi dod nôl yn fyw a dywedodd wrth Mair am fynd i ddweud wrth y disgyblion. Roedd Mair mewn syndod ond gwnaeth fel yr oedd Iesu’n dymuno. Cychwynnodd ei thaith i’w darganfod.

Esgyniad: 

Esgyniad Siaradodd Iesu â’r disgyblion ac yna esgynnodd i’r Nef i eistedd ar ddeheulaw Duw, ei Dad.