Anabledd Dysgu Cymru Adroddiad Blynyddol 2010 - 2011

Views:
 
     
 

Presentation Description

Anabledd Dysgu Cymru Adroddiad Blynyddol 2010 - 2011

Comments

Presentation Transcript

Cynnwys: 

Cynnwys Gallwch neidio i unrhyw adran trwy glicio ar y botymau isod. Mae gan pob tudalen fotwm Cynnwys i ddod â chi yn ôl i’r dudalen hon ar gyfer eich dewis nesaf. Cyflwyniad y Cadeirydd 3 Adroddiad y Cyfarwyddwr 4 Ein Cenhadaeth a’n Nodau 5-6 Dylanwadu ar Bolisi ac Ymgyrchu 7-13 Gwybodaeth 14-17 Hyfforddiant a Digwyddiadau 18-24 Rhwydweithiau 25-26 Rheoli a Datblygu Prosiectau 27-34 Gwella ein Corff 35-36 Aelodau, Ymddiriedolwyr a Staff 37-42 Crynodeb o Wybodaeth Ariannol 43 Manylion Cyswllt 44

Cyflwyniad y Cadeirydd – Adrian Roper: 

Cyflwyniad y Cadeirydd – Adrian Roper 3 Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau) Dechreuais fel Cadeirydd Anabledd Dysgu Cymru yn 2009 a rhaid i mi ddweud ei bod yn sefyllfa eithaf brawychus. Newidiadau i staff, bygythiadau i gyllid, blaenoriaethau ansicr, a llawer o brosiectau yn cael trafferth i barhau, neu hyd yn oed i ddechrau. Dwy flynedd yn ddiweddarach ac wrth gwrs rydym yn dal i wynebu ansicrwydd cyllid. Ond o ran popeth arall, mae sefyllfa Anabledd Dysgu Cymru wedi newid yn llwyr ac mae’r newid hwn wedi bod yn gadarnhaol. Mae staff sefydlog gyda rolau a chyfrifoldebau newydd a chlir yn llawn egni a diben. Mae sawl prosiect cyffrous wedi bod yn llwyddiannus. Mae strategaeth ffocysedig yn ei le gyda nodau a chanlyniadau clir ar gyfer Anabledd Dysgu Cymru a’i aelodau. Os ydy’n chwifio’r faner dros blant a phobl ifanc, neu cefnogi Maniffesto Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, neu yn dawel yn adeiladu pontydd gyda chyrff awtistiaeth, mae Anabledd Dysgu Cymru yno yn gwneud gwaith hanfodol ac yn gwneud y gwaith hynny yn dda iawn. Rhaid i mi ddiolch a mynegi fy mharch yn gyntaf i Jim a’r holl staff. Ond rhaid i mi ddiolch i’m cyd ymddiriedolwyr hefyd. Mae eu sgiliau, profiad, egwyddorion a doethineb wedi bod yn bleser pur. Adrian Roper, Prif Weithredwr, Cartrefi Cymru. Cadeirydd, Anabledd Dysgu Cymru

Adroddiad y Cyfarwyddwr: 

Adroddiad y Cyfarwyddwr 4 Jim Crowe, Cyfarwyddwr Anabledd Dysgu Cymru Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gwneud llawer y tu ôl i’r llenni i wella’r ffordd yr ydym wedi’n trefnu ac i wella ein cyllid er mwyn gallu helpu ein haelodau yn well. Erbyn diwedd y flwyddyn roedd hyn wedi dechrau gwneud gwahaniaeth go iawn. Fe wnaethom ni: newid strwythur y staff a chreu swyddi rheoli fel bod modd cyfeirio’r amrediad o wasanaethau yr ydym yn eu darparu yn well buddsoddi mewn cyfrifiaduron a meddalwedd newydd er mwyn i ni allu gweithio yn fwy effeithiol gwneud ceisiadau llwyddiannus ar y cyd gyda phartneriaid i redeg dau brosiect cyffrous iawn a fydd o fudd uniongyrchol i bobl ifanc, oedolion ag anableddau dysgu a’u teuluoedd ac fe wnaethom ddechrau gweithio arnyn nhw parhau bron yn ddyddiol i ddadansoddi a dosbarthu llawer iawn o wybodaeth bwysig parhau i gynrychioli pryderon ein haelodau wrth y llywodraeth ac asiantaethau cyhoeddus eraill. Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau)

Ein Cenhadaeth yw:: 

Ein Cenhadaeth yw: “Creu Cymru sydd yn gwerthfawrogi ac sydd yn cynnwys pob plentyn ac oedolyn ag anabledd dysgu” Rydym ni: yn gweithio mewn partneriaeth gyda chyrff eraill, pobl ag anableddau dysgu, defnyddwyr gwasanaeth a’u rhieni/gofalwyr ymgyrchu i helpu plant ac oedolion ag anableddau dysgu i fyw bywydau gwerthfawr cefnogi’r sector gwirfoddol a’i fuddiannau darparu a hyrwyddo arfer da 5 Ffotograff trwy garedigrwydd prosiect “Pa Fath o Ddyfodol?” Sefydliad i Bobl ag Anableddau Dysgu Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau)

PowerPoint Presentation: 

Lleihau anghyfiawnder, gwahaniaethu a rhagfarn Cynyddu cyfranogiad prysur ac ystyrlon ym mhob agwedd ar fywyd Cael y bobl sydd yn llunio polisi yn ymrwymedig i hawliau Gwneud yn siŵr bod gwasanaethau o’r ansawdd gorau a bod rhagor o ddewis Gwneud yn siŵr ein bod yn rheoli ein corff yn dda a’n bod yn gwneud pethau yn dda Ein Nodau 6 Rydym yn gweithio i wella bywydau plant ac oedolion ag anabledd dysgu trwy: Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau)

PowerPoint Presentation: 

Plant, awtistiaeth, trosedd casineb, cam-drin, eiriolaeth, iechyd meddwl a gweithlu. Dyma rai o’r meysydd rydym wedi gweithio gydag aelodau i ddylanwadu ar wneuthurwyr polisi, i wella bywydau plant ac oedolion gydag anableddau dysgu yng Nghymru. Dylanwadu ar Bolisi ac Ymgyrchu Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau) 7

Gwella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc: 

Gwella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc Rydym yn aelodau o grŵp polisi i sicrhau bod y timau CAMHS a’r mesur iechyd meddwl yn diwallu anghenion pobl ifanc ag anabledd dysgu yn well ac anghenion iechyd meddwl. Fframwaith cymwysterau newydd y Cyngor Gofal Rydym wedi cyfrannu at: datblygu fframwaith ac achredu newydd yr holl gymwysterau ymgynghori ar y blaenoriaethau ar gyfer datblygu’r gweithlu Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau) 8

Partneriaeth Gofal Cymdeithasol Rhanbarthol De Ddwyrain Cymru  : 

Partneriaeth Gofal Cymdeithasol Rhanbarthol De Ddwyrain Cymru Rydym yn cadeirio’r bartneriaeth hon i wella recriwtio, hyfforddiant ac ansawdd staff gofal cymdeithasol. Plant ac oedolion gydag awtistiaeth ac anabledd dysgu Fe wnaethom gymryd rhan yng ngrwpiau gorchwyl a gorffen ASD Llywodraeth Cymru ar gyflogaeth ac addysg bellach/uwch. Rydym hefyd wedi cadeirio dau gyfarfod ar gyfiawnder troseddol. Cronfa Teuluoedd yn Gyntaf Fe wnaethom gynnig cyngor ar ddyluniad y gronfa a chynnig arian penodedig ar gyfer plant ag anableddau. Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau) 9

Trosedd casineb anabledd: 

Trosedd casineb anabledd Fe wnaethom: gweithio gyda chyrff eraill a’r Heddlu yng Nghymru i gynhyrchu cynllun gweithredu i ddelio gyda throsedd casineb anabledd cynrychioli buddiannau Cymru ar grŵp ymgynghorol DU, ymchwiliad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar aflonyddwch yn gysylltiedig gydag anabledd ysgrifennu’r brif erthygl yn ein cylchgrawn ar godi ymwybyddiaeth ac arfer da cymryd rhan yn y Grŵp Gweithredu yn erbyn Casineb Anabledd Cymru newydd Polisi i amddiffyn oedolion bregus Fe wnaethom helpu i gynhyrchu adroddiad gan Lywodraeth Cymru ar adolygu mesurau i ddiogelu oedolion ac rydym wedi cael ymrwymiad i greu deddfwriaeth. Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau) 10

PowerPoint Presentation: 

Eiriolaeth Rydym wedi cynnal cyfarfod gyda chyrff eiriolaeth i drafod effaith toriadau a diwedd y cynllun grant eiriolaeth Rydym wedi helpu Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn eu gwaith o gynhyrchu maniffesto ar gyfer etholiadau Mai 2010 Cynrychioli barn ein haelodau Fe wnaethom ymateb i’r ymgynghoriadau canlynol : Gofal Cymdeithasol Oedolion Comisiwn y Gyfraith Ymchwiliad i Fynediad Pobl Anabl at Drafnidiaeth Diwygio’r Lwfans Byw Anabl Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau) 11

Ymgyrchu dros fywyd gwell i blant a phobl ifanc ag anableddau dysgu  : 

Ymgyrchu dros fywyd gwell i blant a phobl ifanc ag anableddau dysgu Cafodd yr ymgyrch Mae Plant Anabl yn Bwysig flwyddyn brysur Ar ôl ymgyrchu am ddwy flynedd a hanner penderfynodd yr ymgyrch ganolbwyntio ar flaenoriaethau allweddol i gael yr effaith mwyaf posibl ar gyfer plant anabl. cyfnodau seibiant byr addysg ôl 16 Cyfleusterau Newid Lleoedd Pethau i’w gwneud/Lleoedd i fynd Gwasanaethau cadeiriau olwyn Chwarae cyn oedran ysgol Gofal plant Cael digon o arian i fyw arno Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau) 12

Ymgyrchu dros fywyd gwell i blant a phobl ifanc ag anableddau dysgu: 

Cafodd yr ymgyrch a’r partneriaid rhywfaint o lwyddiant: Bydd cyfnodau o seibiant byr yn dod yn ofyniad statudol mewn Awdurdodau Lleol Mae cyfleusterau newid lleoedd wedi cynyddu ar draws Cymru Cynhaliwyd adolygiad i wasanaethau cadeiriau olwyn ac mae’r Gweinidog Iechyd wedi gwneud argymhellion Hefyd: Mae adroddiad gan Sefydliad Bevan wedi dechrau cael effaith ar ddarpariaeth chwarae. Ymgyrchu dros fywyd gwell i blant a phobl ifanc ag anableddau dysgu Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau) 13

PowerPoint Presentation: 

14 Gwybodaeth Rydym yn casglu gwybodaeth o sawl ffynhonnell i sicrhau bod ein haelodau yn derbyn y newyddion, polisi, digwyddiadau, dadleuon, adnoddau ac arfer da diweddaraf. Rydym eisiau i’n haelodau dyfu a gwella yn eu bywydau, i rwydweithio, lobio a chael llais. ‘ Mae gwybodaeth yn bŵer’! Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau)

PowerPoint Presentation: 

15 Llais ydy ein cylchgrawn chwarterol. Mae’n ardderchog ar gyfer hwyluso trafodaeth, tynnu sylw at arfer da a chyflwyno’r meddwl diweddaraf o amrywiaeth eang o ffynonellau. Rydym bob amser yn chwilio am erthyglau gan awduron newydd, felly os oes gennych bwnc llosg, cysylltwch â ni! Eleni fe gyhoeddodd Llais erthyglau ar: Rhyw a pherthnasau, Technoleg cynorthwyol, Menter cymdeithasol, Trosedd casineb anabledd, Bod yn rhiant, Cefnogaeth wedi’i gyfeirio at y dinesydd, Toriadau yn y sector cyhoeddus, Barn rhiant ar y Ddeddf Galluedd Meddyliol, Maniffesto Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, a llawer mwy! Llais Update ydy ein cylchlythyr misol. Mae’n cynnwys newyddion a gwybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth newydd, hyfforddiant a digwyddiadau, cyllido ac adnoddau. Yn 2010-11 roedd hyn yn cynnwys newyddion am: Addewidion Llywodraeth Cymru am bontio, Diwedd y Cynllun Grant Eiriolaeth, Adolygu amddiffyn oedolion, Canllaw newydd i bontio, Anabledd dysgu a’r system cyfiawnder troseddol, Cynigion i ddileu Lwfans Byw’n Anabl, Rhwydwaith anabledd dysgu a gwybodaeth newydd, Cymru a Chynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau i Bobl ag Anableddau. Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau)

PowerPoint Presentation: 

Ymholiadau am Wybodaeth Gall aelodau Anabledd Dysgu Cymru ddefnyddio ein Gwasanaeth ymholiadau am Wybodaeth i’w helpu gyda materion sydd yn effeithio arnynt. Fe wnaethom helpu gyda 110 o ymholiadau ar: Asesiadau, Cyngor cyfreithiol, Mentora, Mynd ar ddêt, Cyllido. Pontio, Llys Amddiffyn, Chwaraeon, Cyfranogi, Cefnogaeth wedi’i gyfeirio at y Dinesydd, Awtistiaeth, Epilepsi. Ystadegau, Cyfleoedd cymdeithasol, Profiad gwaith, Cael swydd, Cynhyrchu gwybodaeth hawdd i’w ddarllen Unigol: 4 Gwirfoddol: 36 Rhiant: 24 Statudol: 19 Myfyriwr: 10 Arall: 17 E-newyddion - gwasanaeth bwletin newyddion e-bost Mae ein gwasanaeth newyddion e-bost yn sicrhau bod aelodau yn gwybod beth yw’r newyddion newydd a phwysig wrth iddo ddigwydd. Yn 2010-11 fe wnaethom anfon 74 o fwletinau newyddion ar: Mesur Diwygio Lles, Rhaglen cyflogaeth anabledd, Arolwg ymchwil ar gam-drin domestig menywod anabl yng Nghymru, Cyfrifiad 2011, Prosiect Ymchwil Trosedd Casineb Cymru Gyfan, Cau’r Gronfa Byw’n Annibynnol, cais newyddion Channel 4, Ymgynghoriadau newydd a digwyddiadau ymgynghori, Hystingau anabledd, Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr. 16 Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau)

Cynhyrchu gwybodaeth ar ffurf Hawdd i’w Ddarllen  : 

Gwefan Mae’r wefan yn cael ei diweddaru yn rheolaidd gyda newyddion, polisi ac ymgynghoriadau, digwyddiadau, hyfforddiant a swyddi. Fe wnaethpwyd rhagor o waith datblygu ar y wefan, yn cynnwys tudalennau newydd ar ImPaCT yn Ewrop (Prosiect Technoleg wedi’i ganoli ar y person), cynhadledd cyflogaeth yng Nghaerdydd ac adnoddau a gwybodaeth am arian yn ein Cynhadledd Flynyddol 2010. Cynhyrchu gwybodaeth ar ffurf Hawdd i’w Ddarllen Mae ein Gwasanaeth Gwybodaeth Hygyrch yn trosi popeth o ddogfennau ymgynghori i ddeunyddiau cynhadledd i fformat Hawdd i’w Ddarllen i bobl ag anableddau dysgu. Eleni roedd ein gwaith yn cynnwys: Arolwg Ymchwil cam-drin domestig menywod anabl yng Nghymru, Maniffesto ar gyfer Byw’n Annibynnol, deunyddiau cynhadledd trosedd casineb (Anabledd Cymru), Canllaw i deuluoedd plant a phobl ifanc gydag awtistiaeth, Canllaw i staff sydd yn rhoi cefnogaeth i bobl ag awtistiaeth a’u teuluoedd (Llywodraeth Cymru) 17 Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau)

PowerPoint Presentation: 

Rydym yn darparu amrediad o gyfleoedd i dros 1400 o bobl ar draws Cymru i ddysgu a rhannu. Mae ein digwyddiadau yn arddangos enghreifftiau a syniadau y gellir eu gweithredu, mae’n tynnu sylw at wasanaethau sydd yn hyrwyddo annibyniaeth a hawliau, ac yn helpu i ddatblygu sgiliau pobl i wneud gwahaniaeth go iawn. Hyfforddiant a Digwyddiadau Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau) 18

Cynhadledd Flynyddol ‘Mae Arian yn Siarad!’: 

Cynhadledd Flynyddol ‘Mae Arian yn Siarad!’ Roedd ein Cynhadledd Flynyddol yn edrych ar sut y mae pobl yn cael eu harian, beth mae nhw’n ei wneud gyda’r arian a sut i wneud i bob ceiniog gyfrif! Fe wnaeth dros 200 o bobl gymryd rhan dros dau ddiwrnod o ddrama, trafodaeth, gweithdai a sgyrsiau. Mae adnoddau o’r gynhadledd hon ar gael ar ein gwefan. “ Fe wnes i fwynhau’r gweithdai oherwydd roedden nhw’n rhoi cyfle i bobl weithio gyda’i gilydd a dweud eu dweud” “Roedd y gweithdai yn ddefnyddiol iawn oherwydd roedd yn fy helpu i ddeall fy nghyfrif banc yn well” “Ar ôl y gynhadledd fe wnes ofyn i’r staff a oeddwn i’n gallu edrych ar ôl fy arian fy hun. Nawr mae gen i arian bob wythnos!” “Fe es i’r gweithdy ar Undebau Credyd. Dwi wedi gwneud cais i ymuno ag un. Mae nhw’n edrych yn haws na’r banciau.” Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau) 19

Hyfforddiant: 

Hyfforddiant Mae dros 580 wedi elwa oddi wrth ein hyfforddiant ar amrediad eang o bynciau yn cynnwys : Cynllunio wedi’i ganoli ar y person Perthnasau personol a Rhywioldeb Gwneud gwybodaeth yn hawdd i’w ddarllen a’i ddeall Cyfathrebu trwy gyffwrdd Cyfraith Gofal yn y Gymuned Budd-daliadau Lles “Roedd yn wych, dysgu mwy na’r disgwyl. Yn ddefnyddiol yn bendant. Mwynhau’r cwrs yn fawr iawn, yn llawn gwybodaeth ac yn rhyngweithiol.” Un oedd yn bresennol yn ‘Deall Awtistiaeth’ “Sgiliau cyflwyno ardderchog – a thrafodaeth yn gwneud i rhywun feddwl.” Un oedd yn bresennol yn ‘Deall Pobl ag Anableddau Dysgu’ “Hyfforddiant ardderchog, diwallu fy anghenion yn llawn, mwynhau’n fawr iawn, teimlo’n fwy hyderus.” Un oedd yn bresennol Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau) 20

Chi a Fi: 

Chi a Fi Fel rhan o’n gwaith parhaus i gefnogi pobl ifanc fe wnaethom gynnal Cynhadledd Cymru Gyfan i edrych ar weithio gyda phobl ifanc i gefnogi eu cyfeillgarwch a’u perthnasau rhywiol wrth iddynt ddatblygu. Fe wnaeth 54 o bobl gymryd rhan mewn digwyddiad bywiog oedd yn cynnwys drama, siaradwyr, gweithdai a straeon go iawn gan bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol. “ Fe wnes i fwynhau pob agwedd – roedd yn ddiwrnod gwahanol a diddorol. Rwyf wedi gwneud rhai cysylltiadau da.” “Trafodaethau diddorol am reoli risg yn erbyn yr hawl i ddewis ffrindiau.” - ar ‘Cyflwyniad i Feddwl wedi’i Ganoli ar y Person’ llawn yn cynnwys llawer o bobl Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau) 21

Rhoi’r Ddeddf Galluedd Meddyliol ar Waith: 

Rhoi’r Ddeddf Galluedd Meddyliol ar Waith Fe wnaethom gynnal digwyddiadau yng Nghaerdydd a Llandudno i edrych ar sut y mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn cael ei gweithredu. Fe fu 177 o bobl yn gwrando ar siaradwyr a chymryd rhan yn y gweithdai a drefnwyd gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, Eiriolwyr Galluedd Meddyliol Annibynnol. Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru ac Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol Cynhaliwyd y digwyddiadau hyn mewn partneriaeth gydag Athrofa Rhagoriaeth Gofal Cymdeithasol a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol. Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau) 22

Arfer Comisiynu a Darparwyr  : 

Arfer Comisiynu a Darparwyr Oherwydd partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru fe wnaethom ni gynnal dau ddigwyddiad ar gyfer cyrff darparwyr yng Nghymru. Daeth 102 o bobl o gyrff darparwyr bach a mawr at ei gilydd i glywed am ddatblygiadau mewn arfer comisiynu yng Nghymru a chael y cyfle i ofyn cwestiynau a chodi materion gyda Llywodraeth Cymru. “ Defnyddiol iawn ac yn llawn gwybodaeth, cydbwysedd da o wrando a thrafodaeth grŵp, yn falch iawn gyda’r cynnydd sydd yn cael ei wneud ar y pwnc a godwyd o weithgaredd comisiynu blaenorol.” “Ateb llawer o gwestiynau. Codi cwestiynau eraill ond wedi cyfarfod pobl a fydd yn darparu cyfleoedd i gryfhau comisiynu yn lleol.” - ar ‘Cyflwyniad i Feddwl wedi’i Ganoli ar y Person’ Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau) 23

Digwyddiadau Ymgynghori : 

Digwyddiadau Ymgynghori Cyfraith Gofal Cymdeithasol Oedolion Fe wnaethom gynnal 2 sesiwn mewn partneriaeth gyda Chomisiwn y Gyfraith. Roedd y rhai oedd yn bresennol yn gallu siarad yn uniongyrchol gyda Chomisiwn y Gyfraith am y cynigion ar ddeddfwriaeth gofal cymdeithasol oedolion. Rydym yn ymgynghori gyda’n aelodau a’r gymuned ehangach i glywed eu barn. Mae hyn yn ein helpu i ymateb i ddatblygiadau polisi ac ymarfer ac mae’n arwain ein polisïau ni. Ymgynghori gyda rhan ddeiliaid Fe wnaethom gynnal 9 digwyddiad ar gyfer ein haelodai a’r rhai sydd â diddordeb yn ein gwaith. Fe wnaethom gasglu cyfoeth o wybodaeth gan 171 o bobl i’n helpu i gynllunio gweithgareddau yn y dyfodol a gosod ein blaenoriaethau ar gyfer plant a phobl ifanc, oedolion, rhieni a chynhalwyr a gwasanaethau. Llais Defnyddwyr Cymru Fe wnaethom weithio gyda Llais Defnyddwyr Cymru i’w helpu i ymgynghori gyda phobl ag anableddau dysgu fel defnyddwyr. Roedd y bobl oedd yn bresennol yn siarad am eu profiadau gan helpu Llais Defnyddwyr Cymru i gynllunio eu gwaith yn y dyfodol. Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau) 24

PowerPoint Presentation: 

Mae Anabledd Dysgu Cymru yn cydnabod ein bod yn gweithio orau pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd. Dyna pam yr ydym yn annog partneriaeth a rhannu trwy ein rhwydweithiau o ymarfer anabledd dysgu i unigolion a chyrff ar draws Cymru. Rhwydweithiau Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau) 25

PowerPoint Presentation: 

Rydym yn cynnal rhwydweithiau i gefnogi ymarfer anabledd dysgu yng Nghymru: Darganfod y Gefnogaeth Gywir i Rieni trwy’r Rhwydwaith Anableddau Dysgu Mae’r rhwydwaith hon yn darparu cyfleoedd i weithwyr proffesiynol rannu dysgu ac arfer da ac mae’n rhoi cefnogaeth i rieni. Mae cyfarfodydd y Rhwydwaith hefyd yn rhoi cyfle i rieni rannu eu barn gyda gweithwyr proffesiynol. 100 o aelodau. Cynhaliwyd 4 cyfarfod rhwydwaith rhanbarthol. Mae cyllid ar gyfer y gwaith hwn wedi dirwyn i ben ond rydym yn gweithio’n galed i gynnal y rhwydwaith. Rhwydwaith Cynllunio wedi’i Ganoli ar y Person Mae’r rhwydwaith hon yn darparu cyfleoedd i ddysgu a rhannu arfer da i ymarferwyr Cynllunio wedi’i Ganoli ar y Person a phobl sydd yn defnyddio Cynllunio wedi’i Ganoli ar y Person yn eu bywydau. Erbyn hyn mae gennym 217 o aelodau, 11 o gyfarfodydd rhwydweithiau rhanbarthol a chynhaliwyd dau gyfarfod rhwydwaith Cymru gyfan yn ystod y flwyddyn. Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau) 26

PowerPoint Presentation: 

27 Trwy’r prosiectau yr rydym wedi eu cyflwyno a’u datblygu eleni rydym wedi gwella canlyniadau i bontio pobl ifanc, wedi hysbysu llunwyr penderfyniadau am yr hyn y mae pobl ag anabledd dysgu ei eisiau allan o’u gwasanaethau, wedi darparu gwybodaeth ac adnoddau sydd yn Hawdd i’w Darllen ac sydd yn rhyngweithiol ac wedi gweithio i gyflymu’r defnydd o dechnolegau wedi’u canola ar y person. Rheoli a Datblygu Prosiectau Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau)

Gwybodaeth Hygyrch a Phrosiect Hyfforddiant ar ymwybyddiaeth o Anabledd Dysgu  : 

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gytuno i ariannu’r prosiect hwn yn hwyr yn 2010 gan ddatblygu dau o’r cynigion yng Nghynllun Gweithredu Arfaethedig 2008: gwell mynediad at wybodaeth ar iechyd, a hyfforddiant ymwybyddiaeth ar gyfer staff llinell flaen mewn gwasanaethau prif ffrwd.. Bydd y prosiect yn: cyflwyno Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Anabledd ar draws Cymru. Ein nod yw newid dealltwriaeth staff mewn adrannau tai, hamdden awdurdodau lleol, heddlu ac asiantaethau cyfiawnder troseddol. Gwybodaeth Hygyrch a Phrosiect Hyfforddiant ar ymwybyddiaeth o Anabledd Dysgu Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau) 28 Rhoi gwell mynediad at wybodaeth i bobl ag anableddau dysgu a’u teuluoedd ar ofal iechyd yng Nghymru. Caiff gwefan hygyrch newydd ei datblygu yn darparu gwybodaeth Hawdd i’w Ddarllen ar iechyd mewn un lle. Bydd llinell gymorth yn cefnogi pobl i ddefnyddio’r wefan. Rydym hefyd yn datblygu canllaw i gyrff ar sut i greu gwybodaeth dda, hygyrch. Rydym yn rheoli’r prosiect mewn partneriaeth gyda Fforwm Cymru Gyfan o inni a Chynhalwyr. Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan a Mencap Cymru.

Prosiect Gwybodaeth Hygyrch a Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Anabledd Dysgu  : 

Mewn cyfnod byr iawn fe wnaethom gynllunio sut y byddai’r prosiect yn cael ei gyflwyno, ffurfio Grŵp Llywio Prosiect, penodi contractwyr ar gyfer y wefan a chanllaw Hawdd i’w Ddarllen, a recriwtio 4 o staff prosiect newydd. Fe wnaeth y prosiect gyflogi dau swyddog gwybodaeth hygyrch, un ohonynt ag anabledd dysgu. Eu gwaith yw ymchwilio i arfer da gwybodaeth Hawdd i’w Ddarllen ar iechyd yng Nghymru, a gweithio gyda dylunydd y we i ddatblygu gwefan hygyrch ar gyfer yr wybodaeth hon. Roedd gwaith ar ochr Hyfforddiant Ymwybyddiaeth y prosiect yn cynnwys dylunio’r pecynnau hyfforddiant, hyfforddi’r hyfforddwyr a dosbarthu deunyddiau marchnata ar draws Cymru. Dros y ddwy flynedd nesaf caiff 70 o gyrsiau hyfforddi eu cyflwyno. Mae’r prosiect yn dangos sut y gall cyrff anabledd dysgu yng Nghymru ymuno gyda’i gilydd i ddarparu manteision go iawn i bobl ag anableddau dysgu a’u teuluoedd. Mae amser cyffrous yn ei wynebu. Prosiect Gwybodaeth Hygyrch a Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Anabledd Dysgu Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau) 29

Prosiect Pontio i Gyflogaeth AAA Rhanbarthol  : 

Bydd y prosiect ardderchog hwn, dan y teitl ‘Cyfleoedd Gwirioneddol’ erbyn hyn, yn gweithio gyda phobl ifanc 14-19 oed sydd ag anghenion dwys a chymhleth, anabledd dysgu, y rhai ar y sbectrwm awtistig a’u teuluoedd/cynhalwyr yng Nghaerffili, Rhondda Cynon Taf, Merthyr, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Torfaen a Phen-y-bont. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar ‘gefnogaeth mentor cyfoed’ a’r model pontio i fywyd oedolyn ‘Pum Llwybr’, a’r llwybrau hynny yw: Dysgu Gydol Oes, Perthnasau, Cyfleoedd Hamdden, Cyflogaeth a Byw’n Annibynnol. Mae’r prosiect yn seiliedig ar waith yn Ysgol Trinity Fields ac mae wedi’i gyllido gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd. Fe wnaethom glywed ym mis Mawrth bod ein tendr i ddarparu’r hyfforddiant a’r gwasanaethau gwybodaeth ar gyfer y prosiect hwn wedi bod yn llwyddiannus. Rydym yn edrych ymlaen at gael gweithio gyda’n partneriaid. Prosiect Pontio i Gyflogaeth AAA Rhanbarthol Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau) 30

Dewisiadau Bywyd: 

Ar y funud olaf fe wnaethom lwyddo i gael rhywfaint o gyllid ar gyfer 2010/11 gan fanc Lloyds TSB. Rydym yn gweithio gydag amrediad eang o bobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin, nifer ohonynt ag anghenion cymhleth neu yn ddigartref. Mae un person ifanc yn ymladd trwy’r llysoedd dros ei hawl i dderbyn taliadau uniongyrchol ac efallai y bydd y penderfyniad ar hyn yn gosod cynsail cyfreithiol. Mae nifer o bobl ifanc wedi dewis mynychu coleg dyddiol, mae rhai wedi dewis gwasanaeth dydd preifat. Nid oes neb eleni wedi dewis mynychu gwasanaeth dydd awdurdod lleol, dewis sydd yn ymddangos yn llai a llai poblogaidd. Rydym yn gweithio gyda 20 o bobl ifanc ond bydd hyn yn cynyddu i dros 30 erbyn mis Mawrth nesaf. Rydym yn gobeithio y bydd modd darganfod ffynonellau cyllido tymor hirach fel bod pobl ifanc yn parhau i gael yr help i ddewis y math o fywydau o’u dewis nhw. Dewisiadau Bywyd 31 Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau)

Grŵp Ymgynghorol Gweithredu Anabledd Dysgu (LDIAG): 

Grŵp Ymgynghorol Gweithredu Anabledd Dysgu (LDIAG) Bu 2010/11 yn flwyddyn anarferol i Grŵp Ymgynghorol Gweithredu Anabledd Dysgu (LDIAG). Ar ôl i Lywodraeth Cymru wrthod Cynllun Gweithredu arfaethedig LDIAG ym mis Rhagfyr 2009, penderfynodd aelodau’r grŵp bod LDIAG cyfredol wedi dod i ben yn naturiol. Cynhaliwyd y cyfarfod diwethaf ym mis Medi 2010. Roedd yr aelodau yn teimlo bod angen grŵp ‘newydd i barhau’ gyda chylch gwaith newydd, aelodaeth a chyd Gadeiryddion newydd o barhau gyda gwaith pwysig y grŵp ac i gynghori’r Gweinidog ar faterion sydd yn effeithio ar bobl ag anableddau dysgu a’u teuluoedd. Cytunodd y Gweinidog i sefydlu grŵp newydd yn 2011/12. Yn ystod y cyfnod hwn o newid bu Anabledd Dysgu Cymru wrthi yn cynnal swydd Swyddog Gwybodaeth LDIAG. Roedd y gwaith yn cynnwys cymryd rhan mewn tri cyfarfod LDIAG, datblygiad parhaus gwefan LDIAG yn cynnwys adran benodol ar waith Cymuned Ymarfer Ymddygiad Heriol a chynhyrchu tri cylchlythyr mewn fformatau safonol a hawdd i’w ddarllen. 32 Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau)

Grŵp Ymgynghorol Gweithredu Anabledd Dysgu (LDIAG) : 

Bu Anabledd Dysgu Cymru yn gweithio’n agos gyda’r cyrff partneriaid, Fforwm Rhieni a Chynhalwyr Cymru Gyfan,. Mencap Cymru a Phobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, yn cynnwys datblygu model arfaethedig newydd ar gyfer LDIAG. Trwy weithio gyda’r partneriaid hyn fe wnaethom gyflwyno cais llwyddiannus i Lywodraeth Cymru ar gyfer cyllido Prosiect Gwybodaeth Hygyrch a Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Anabledd Dysgu , o ganlyniad i ymateb y Gweinidog i Gynllun Gweithredu arfaethedig 2008. Trwy waith Swyddog Gwybodaeth LDIAG fe wnaethom hefyd helpu Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan i baratoi a chyflwyno dwy sioe deithiol (un yng Ngorseinon a’r llall yn y Fflint) ar banc cyfranogiad a dyfodol LDIAG. Grŵp Ymgynghorol Gweithredu Anabledd Dysgu (LDIAG) Chwith: Clawr Newyddion LDIAG, hawdd i’w ddarllen, Mehefin 2010. Ar y brig: Gwefan LDIAG Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau) 33

PowerPoint Presentation: 

34 ImPaCT yn Ewrop: Gwella Technoleg wedi’i Ganoli ar y Person yn Ewrop http://impact-in-europe.eu Gyda phartneriaid yng Ngwlad Belg, yr Eidal, y Ffindir, Gwlad Pwyl, Ffrainc a’r DU rydym yn edrych sut y gall technoleg, wedi’i gyflwyno a’i ddefnyddio mewn modd sydd wedi’i ganoli ar y person, alluogi pobl anabl i fyw yn annibynnol ac ymrymuso. Gallai’r dechnoleg hon gynnwys rheoliadau amgylcheddol, cyfathrebu cynorthwyol, TGC, Teleofal a Theleiechyd. Gwnaethpwyd cryn dipyn o waith ar yr hyn y gallai’r prosiect ei gyflwyno, yn cynnwys Fframwaith Foesegol ar gyfer y defnydd o Dechnoleg wedi’i Ganoli ar y Person (TGP), mapio’r defnydd o TGP a dadansoddi anghenion hyfforddi unigolion a’u cefnogwyr. Fe wnaethom gynnal cynadleddau llwyddiannus ar Gyfathrebu, Addysg a Hyfforddiant yn Sintra (Portiwgal), Paris a Helsinki a dechrau ar y gwaith o drefnu cynhadledd y bydd Anabledd Dysgu Cymru yn ei chynnal ar Gyflogaeth a TPG yng Nghaerdydd ym mis Mehefin 2011. Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau)

PowerPoint Presentation: 

Fe wnaethom ni ailstrwythuro ein tîm staff, cyflwyno strwythur cyflogau newydd a newid ein dogfennau llywodraethu. Fe wnaeth y newidiadau hyn, ynghyd â buddsoddi mewn TG, gryfhau’r sefydliad a’n galluogi i ymgymryd â phrosiectau newydd a gwella gwasanaethau i sefydliadau sy’n aelodau. 35 Gwella ein corff Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau)

PowerPoint Presentation: 

36 Mae gennym: Tîm o staff sydd wedi’i ail strwythuro ac rydym wedi cyflwyno 4 swydd rheolaeth ganol. Yn niwtral o ran costau, roedd yn golygu cynnydd bychan mewn oriau i 3 o’r 4 rheolwr ac yn galluogi rhagor o swyddi i edrych tuag allan. Cyflwyno strwythur cyflog newydd. Cynnal EGM ar 15 Gorffennaf 2010. Roedd y newidiadau allweddol i’ dogfennau llywodraethu yn cynnwys ymestyn y pwll y gallwn recriwtio aelodau pwyllgor rheoli ohono ac ychwanegu at ein categorïau o aelodaeth newydd. Cynyddu nifer cyfarfodydd y pwyllgor rheoli bob blwyddyn Uwchraddio caledwedd a meddalwedd TG i’n gwneud yn fwy effeithiol Llwyddo i gael cyllid newydd ar gyfer y prosiectau canlynol: - Menter Pontio i Gyflogaeth Rhanbarthol - Gwybodaeth Hygyrch a Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Anabledd Dysgu - Adeiladu Gallu Llywodraeth Cymru/Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol - Dewisiadau Bywyd Darparu cefnogaeth cyflogres i’n haelodau: Cyswllt Conwy, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, Pobl yn Gyntaf Ceredigion, Pobl yn Gyntaf Abertawe, Pobl yn Gyntaf Caerfyrddin, a Phobl yn Gyntaf y Fro Roedd y pethau a wnaethom i wella ein corff yn cynnwys: Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau)

Aelodau Llawn: 

Aelodau Llawn ABCD Cymru Clwb Gateway Mencap Abertyleri a’r Cylch Gweithredu dros Blant Materion Eiriolaeth (Cymru) Age Concern Cymru a Help the Aged yng Nghymru Fforwm Cymru Gyfan o Rieni a Gofalwyr Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan Grŵp Diddordeb Arbennig Cymru Gyfan – Gofal Iechyd Ceg Arbennig Antur Waunfawr ARC Cymru Cymdeithas Cyrff Gwirfoddol yn Wrecsam Llais i Chi Eiriolaeth y Dinesydd Sir Frycheiniog Cymdeithas Cyrff Gwirfoddol Pen-y-bont Cymdeithas Cyrff Gwirfoddol Pen-y-bont Fforwm Sir Pen-y-bont O Rieni/Gofalwyr Person ag Anawsterau Dysgu Pobl yn Gyntaf Pen-y-bont Buzz AH Cae Post Cyf Fforwm Rhieni a Gofalwyr Bwrdeistref Caerffili Pobl yn Gyntaf Caerffili Cynghrair Pobl Anabl Caerdydd a’r Fro Ffederasiwn Rheini Caerdydd a’r Fro Cymdeithas Mencap Caerdydd Pobl yn Gyntaf Caerdydd Cartrefi Ni Cyf Cartrefi Cymru Celf o Gwmpas Pobl yn Gyntaf Ceredigion Plant yng Nghymru Rhwydwaith Cylchoedd Cymru Consortiwm Bywydau Cymunedol Gofal yn y Gymuned Compass Cyf Cysylltu â Theulu Cyswllt Conwy ar gyfer Anableddau Dysgu Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy Co-options Ltd Croesffordd Cymru – Gofalu am Ofalwyr Cwmni Seren Ffestiniog Cyf Cymryd Rhan DASH (Anableddau a Hunan Gymorth) Fforwm Anableddau Dysgu Sir Ddinbych Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych Dimensions Disability Arts Cymru Anabledd Cymru Cymdeithas Syndrom Down DRIVE Cyf Asiantaeth Cyflogaeth gyda Chefnogaeth Elite Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf Cyf Fforwm Anableddau Dysgu Sir y Fflint Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint Gofal a Chefnogaeth Gwalia Theatr Hijinx Ymddiriedolaeth Innovate Rhwydweithiau Cefnogaeth Byw Keyring Cyf 37 Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau)

Aelodau Llawn: 

Aelodau Llawn 38 L’arche Aberhonddu Cysylltiadau – Grŵp Gweithredu Anabledd Dysgu Cymru Clwb Gateway Llanelli a’r Cylch Mencap Cymru (Cas-gwent) Mencap Cymru Mencap Môn Menter Fachwen Pobl yn Gyntaf Trefynwy Mudiad Ysgolion Meithrin NAAPS Cymru Cymdeithas Genedlaethol Llyfrgelloedd Teganau a Hamdden/Mae Chwarae’n Cyfrif Cymru Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Nedd Port Talbot Mencap Casnewydd Pobl yn Gyntaf Casnewydd NEWSA Ltd Cymdeithas Cyngor ac Eiriolaeth Gogledd Cymru Ymddiriedolaeth Tai Cyfle Eiriolaeth Sir Benfro Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro Grŵp Tai Pennaf Pobl yn Gyntaf Nedd Port Talbot Eiriolaeth y Dinesydd Person i Berson Perthyn Hyrwyddo Annibyniaeth Prospects Reach (Byw gyda Chefnogaeth) Cyf Pobl yn Gyntaf Rhondda Cynon Taf RNID Cymru Cymdeithas Mencap Rhuthun a’r Cylch Ymddiriedolaeth Shaw SNAP Cymru Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe Pobl yn Gyntaf Abertawe – Prosiect Eiriolaeth Iechyd Cymheiriaid Tai Pawb Tan Dance Cyf Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogaeth Tenantiaid Cymru (TPAS) Ymddiriedolaeth Friendly Y Clwb Rhyngsynhwyraidd Prosiect Viva Pobl yn Gyntaf Torfaen Ymddiriedolaeth Touch Cyf Gofal a Chefnogaeth y Drindod Tros Gynnal Trothwy Cyf Tyddyn Môn Cwmni Cyf Cymdeithas Tai United Welsh Canolfan Gwasanaethau Gwirfoddol y Fro Vision 21 Gweithredu Gwirfoddol Caerdydd Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful Walsingham Cymru WISE Cyf (Menter Cymru ar gyfer Cyflogaeth gyda Chefnogaeth) Prosiect Eiriolaeth Eich Llais Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau)

Aelodau Unigol : 

Aelodau Unigol 39 Annetts, Carolyn Arnall, Christopher Ataou, Christine Bochenski, Tricia Brett, Monica Burslem, Rosemary Champion, Julia Clarke, Eileen Clarke, Janice M Davies, Ann Davies, Ken Davies, Susan Edwards, Roger Godin, Julia Jones, Enid Keeble, Monica Leaves, Anne Linford, Lorraine Luke, Cyril Mackay, Christine Marsden, Pamela Mills, Diana Morris, Mona Nash, Susie Norris, Joanne Rees, Sally Shelton, Jerry Thomas, Jenny Young, John Aelodau Statudol Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (Gwasanaethau Anabledd Dysgu) Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Seicoleg Clinigol Anabledd Dysgu Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont – Adran Gwasanaethau Personol Cyngor Gofal Cymru Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Cyngor Caerdydd – Gofal Cymdeithasol ac Iechyd Coleg Derwen Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cyngor Sir y Fflint – Cyfleoedd Dydd LDASC Cyngor Gwynedd Ymddiriedolaeth GIC Hywel Dda – Iechyd Teulu a Phlant Ymddiriedolaeth GIC Hywel Dda – Gwasanaeth Anabledd Dysgu Cyngor Sir Fynwy – Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Nedd Port Talbot - Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai Cyngor Sir Benfro – Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Powys – Canolfan E-fasnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Cyngor Sir Powys Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Prifysgol Morgannwg Prifysgol Cymru, Casnewydd Cyngor Bro Morgannwg Canolfan Anableddau Dysgu Cymru Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau)

Aelodau Masnachol: 

Aelodau Masnachol Bluebird Care (Casnewydd) Focus Care Wales Julie Burton Law The Regard Partnership 40 Aelodau y tu allan i Gymru Total Loving Care Values in Care Workwell Enterprise Athrofa Anableddau Dysgu Prydeinig (BILD) Connect in the North Foundation for People with Learning Disabilities Social Care Institute for Excellence Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau)

Ymddiriedolwyr: 

Ymddiriedolwyr Cymuned o ddiddordeb Ymddiriedolwr Yn cynrychioli Darparwyr oedolion Adrian Roper Cadeirydd Cymuned byw yn y Gymuned Ansley Workman (ymddiswyddo 12/8/10) Cymuned byw yn y Gymuned Steve Cox* Trysorydd Cymuned byw yn y Gymuned Cysylltiadau DU Lle gwag Hunan Eiriolaeth Graham Ivey* Hunan Eiriolaeth Gogledd Ddwyrain Cymru 2ail sedd yn wag Rhieni a Chynhalwyr Kevin Sibbons * Cyswllt Conwy Jacqui Caldwell Is-gadeirydd : Fforwm Anabledd Dysgu Sir Ddinbych Gogledd Cymru Darparwyr Plant Sian Owen* Mudiad Ysgolion Meithrin Cyflogaeth gyda Meriel Hall Ymddiswyddo 9/11/10 Cymdeithas Asiantaethau Cyflogaeth gyda Chefnogaeth Chefnogaeth Darparwyr Cefnogaeth John Young* Ffederasiwn Rhieni Caerdydd a’r Fro Teulu Eiriolaeth Annibynnol Madhulata Patel* Tai Pawb Seddi Agored Roger Bishop Ymddiswyddo 17/9/10 Tros Gynnal Charlotte Aubrey Ymddiswyddo 17/9/10 Touch Trust Christine Finchman* Gofal yn y Gymuned Compass Sherri Sargent* Is-Gadeirydd : De Cymru Gofal a Chefnogaeth Gwalia Phil Madden* Ymddiriedolwr unigol Susie Nash* Ymddiriedolwr unigol Alan Sutherns* Ymddiriedolwr unigol Ymgynghorwyr Mark John Williams Derbyniwyd gan y Pwyllgor Rheoli Ionawr 2011-10-11 *Pwyllgor Rheoli wedi’i ethol yn y CCB ar 17 Medi 2010. Mae ymddiriedolwyr yn eu swydd am dymor o 2 flynedd. 41 Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau)

PowerPoint Presentation: 

42 Staff Anabledd Dysgu Cymru * Staff prosiect Click here to return to contents page (or click screen to continue) Rebecca Watkins Cydlynydd Digwyddiadau a Nawdd Rebecca Williams Rheolwr Cyllid ac Adnoddau Materol Zoe Richards Rheolwr person ifanc a'i ofalwr Simon Rose Rheolwr Hyfforddiant a Digwyddiadau Kai Jones Swyddog Gwybodaeth Sam Williams Swyddog Gwybodaeth LDIAG* Nicola Pepper CP y Cyfarwyddwr ( Ymddiswyddo Feb 2011) Pauline Moss Cynorthwywraig Cyllid Ian Cullimore Swyddog Cyllid Cheryl White Gweinyddydd Inacia Rodrigues Gweinyddydd Hyfforddiant James Crowe Cyfarwyddwr Sam Jenkins Glanhawraig Joanne Moore Rheolwr Llywodraethu ac Adnoddau Dynol Karen Warner Rheolwr Gwasanaethau Gwybodaeth Steph Harnett Eiriolydd Pontio* Dewisiadau Bywyd

PowerPoint Presentation: 

2011 2010 £ £ Asedau sefydlog yn cynnwys dodrefn ac offer swyddfa a gwelliannau i’r eiddo 23,308 18,243 Dyledwyr , sef yr hyn sydd yn ddyledus i’r elusen Grantiau a dyledwyr eraill 67,979 32,826 Arian parod yn y banc ac mewn llaw 255,329 148,758 _______ ______ 346,616 199,827 _______ ______ Llai : Rhwymedigaethau Yr hyn sydd yn ddyledus gan yr elusen i: Gredydwyr eraill (141,302) (58,909) _______ _______ (141,302) (58,909) _______ _______ Yn gadael yr hyn y mae’r cwmni yn berchen arno 205,314 140,918 ====== ====== Sut y crëwyd hyn Cyllid cyfyngedig 27,411 10,292 Cyllid anghyfyngedig 177,903 130,626 _______ _______ 205,314 140,918 ====== ====== Gweithrediadau Blynyddol O ble y daeth ei harian Cyllid Cyllid Cyfanswm Cyfanswm Anghyfyngedig Cyfyngedig 2011 2010 Grantiau 372,000 147,380 519,380 441,557 Cynadleddau a digwydiadau hyfforddi 75,911 - 75,911 68,202 Ffioedd gweinyddu prosiectau 27,301 - 27,301 41,327 ac incwm arall Llog a dderbyniwyd 101 - 101 91 _______ _______ _______ _______ 475,313 147,380 622,693 551,177 Llai : gwariant ar gyflogau, costau a gweinyddu prosiectau ( 428,036 ) ( 130,261 ) ( 558,297 ) ( 558,285 ) Adnoddau net yn dod i mewn/ yn mynd allan 47,277 17,119 64,396 7,108 Trosglwyddo rhwng cyllid - - - - _______ _______ _______ _______ Symudid net mewn cyllid 47,277 (17,119) (64,396) (7,108) ====== ====== ====== ====== The financial statements were approved by the Trustees on 14 July 2011 and signed on its behalf by J G Crowe and S Cox Cymeradwywyd y datganiadau ariannol gan yr Ymddiriedolwyr ar 15 Gorffenaf 2011 a llofnodwyd ar eu rhan gan J G Crowe ac S Cox. Mae’r ffigurau a gyflwynir yma wedi’u cymryd o ddatganiadau ariannol llawn Anabledd Dysgu Cymru Cyf am y flwyddyn yn gorffen 31 Mawrth 2011 ac maent wedi’u cymeradwyo gan yr ymddiriedolwyr ac wedi’u cyflwyno i’r Comisiwn Elusennol ac i’r Cofrestrydd Cwmnïau. Mae’r archwilwyr. Watts Gregory LLP, yr oedd eu barn yn bendant, wedi cadarnhau bod y crynodeb hwn yn gyson gyda’r adroddiad llawn sydd ar gael gan Anabledd Dysgu Cymru dim ond gofyn amdano. 43 ANABLEDD DYSGU CYMRU CRYNODEB O WYBODAETH ARIANNOL – AM Y FLWYDDYN YN GORFFEN 31 MAWRTH 2011 Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau)

PowerPoint Presentation: 

Anabledd Dysgu Cymru 41 Cilgant Lambourne Parc Busnes Caerdydd Llanisien Caerdydd CF14 5GG Ffôn: 029 20681160 Ffacs : 029 20752149 E-bost enquiries@learningdisabilitywales.org.uk Gwefan www.learningdisabilitywales.org.uk Cwmni cyfyngedig gan warrant: 02326324 Elusen Gofrestredig: 1062858 Rhif Cofrestru TAW: 762 4559 11 44 Mae’r adroddiad blynyddol hwn ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar CD ac ar ein gwefan Cliciwch yma i fynd yn ôl i’r dudalen gynnwys (neu cliciwch ar y sgrin i barhau)